Ermyn

Ermyn
Mathfur Edit this on Wikidata
Yn cynnwysermine spot Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais cyn Ddugaeth Llydaw, dan y teitl "Ermine"
Amryiaethau o ddyluniad yr ermyn dros yr oesoedd
Y carlwm Mustela erminea yn ei got aeaf. Defnyddiwyd ei ffwr gan frenhinoedd a'r dosbarth rheoli oherwydd ei wres a moethusrwydd

Mae'r ermyn[1] (hefyd ermin neu carlwm) yn ddyluniad mewn mewn herodraeth a elwir yn "ffwr", math o dintur, sy'n cynnwys cefndir gwyn gyda phatrwm o siapiau du yn cynrychioli cot aeaf y carlwm (rhywogaeth o wenci gyda ffwr gwyn a blaen du cynffon). Gwnaed leinin clogynnau coroni canoloesol a rhai dillad eraill, a gadwyd fel arfer i'w defnyddio gan gyfoedion uchel eu statws a'r teulu brenhinol, trwy wnio llawer o ffwr ermine at ei gilydd i gynhyrchu ffwr gwyn moethus gyda phatrymau o hongian cynffonnau blaen du. Gelwid rhain yn ermynwisg[2] Yn bennaf oherwydd y cysylltiad rhwng ffwr y carlwm a leinin clogynnau coroni, coronau a chapiau arglwyddi, roedd trwyth herodrol ermyn fel arfer yn cael ei gadw ar gyfer cymwysiadau tebyg mewn herodraeth (h.y., leinin y coronau a'r chapeaux a'r canopi brenhinol).[3] Mewn herodraeth mae wedi dod yn arbennig o gysylltiedig â Dugaeth Llydaw a herodraeth Llydaw.

Defnyddir y term ermyn ar gyfer y dyluniad herodrol a baneriaeth a carlwm ar gyfer y creadur ei hun.

  1. "Ermin Ermyn". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 Awst 2023.
  2. "Ermynwisg". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 Awst 2023.
  3. Woodcock, Thomas; Robinson, John Martin (1988). The Oxford Guide to Heraldry. Oxford: Oxford University Press. tt. 88–89. ISBN 0-19-211658-4.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search